Neges gan y Pennaeth
Mae’n bleser gennyf eich croesawu i Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf. Mae’n anrhydedd ac yn fraint bod yn Bennaeth cyntaf yr ysgol, ac rwy’n awyddus i gychwyn ar y daith yma gyda phob un ohonoch. Mae ein hysgol yn lle mae plant yn cael eu hannog i dyfu, dysgu, a chyflawni eu llawn botensial mewn amgylchedd cefnogol.
Ein nod yw meithrin pob plentyn i deimlo'n gryf am ei iaith, ei wlad, a'i etifeddiaeth. Rydym hefyd am feithrin ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'u rolau mewn cymdeithas, sy'n croesawu amrywiaeth a goddefgarwch i bawb.
Mae ein staff ymroddedig yn frwd dros ddarparu addysg o ansawdd uchel a meithrin awyrgylch cadarnhaol a chynhwysol lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i barchu.
Mae gennym flwyddyn gyffrous o'n blaenau, yn llawn cyfleoedd ar gyfer dysgu, darganfod a datblygiad personol. Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio i herio ac ysbrydoli ein plant, gan eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol mewn byd sy’n newid yn barhaus.
Yn ogystal â hyn, rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau allgyrsiol, clybiau, a rhaglenni chwaraeon i sicrhau addysg gyflawn i bawb.
Mae cyfathrebu a chydweithio rhwng yr ysgol a’r cartref yn hanfodol i’n llwyddiant. Rwy’n eich annog i gadw mewn cysylltiad â ni trwy ein gwefan ysgol, cylchlythyrau, a chyfarfodydd rhieni ac athrawon. Mae eich cyfraniad a'ch cefnogaeth yn chwarae rhan hanfodol yn addysg eich plentyn, ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyfraniad mewn digwyddiadau a gweithgareddau ysgol.
Trwy gydweithio, gallwn greu amgylchedd lle gall pob plentyn llwyddo a chyrraedd eu botensial. Rwy’n hyderus, gyda’ch cefnogaeth, y byddwn yn gwneud y flwyddyn ysgol hon yn brofiad llwyddiannus i bawb.
Diolch am ddewis ysgol Awel Taf ac edrychwn ymlaen at flwyddyn wych o’n blaenau, yn llawn dysgu, twf a phrofiadau cofiadwy.
A message from the Head Teacher
I am delighted to welcome you to Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf. It is an honour and a privilege to be the first Headteacher of the school, and I am eager to embark on this journey with all of you. Our school is a place where children are encouraged to grow, learn, and achieve their full potential in a supportive environment.
Our aim is to nurture all children to feel strongly about their language, their country, and their heritage. We also want to foster awareness and understanding of their roles in society, who welcome diversity and tolerance for everyone.
Our dedicated staff is passionate about providing a high-quality education and fostering a positive and inclusive atmosphere where every child feels valued and respected.
We have an exciting year ahead, filled with opportunities for learning, discovery, and personal development. Our curriculum is designed to challenge and inspire our children, preparing them for future success in an ever-changing world.
In addition to this, we offer a wide range of extracurricular activities, clubs, and sports programs to ensure a well-rounded education for all.
Communication and collaboration between school and home are vital to our success. I encourage you to stay connected with us through our school website, newsletters, and parent-teacher meetings. Your involvement and support play a crucial role in your child's educational journey, and we welcome your participation in school events and activities.
By working together, we can create an environment where every child can thrive and reach their highest potential. I am confident that, with your support, we will make this school year a rewarding and successful experience for everyone.
Thank you for entrusting us with your child's education and we look forward to a fantastic year ahead, filled with learning, growth, and memorable experiences.